Please scroll down, To apply

Assistant Marketing Manager

hiring now

CARDIFF COUNTY COUNCIL

2021-12-03 08:58:53

salary: 29577.00 British Pound . GBP Annual

Job location London, Greater London, United Kingdom

Job type: fulltime

Job industry: Advert / Media / Entertainment

Job description

Situated in the heart of Cardiff, St David's Hall is the National Concert Hall of Wales.

Renowned for its world-class acoustic as one of the top ten concert halls in the world, it has a rich programme of live events including pop, rock, folk, jazz, comedy, lunchtime concerts, musicals, light entertainment, dance and world music, in addition to welcoming many of the world's most renowned orchestras and soloists.

St David's Hall also hosts prestigious events such as the Welsh Proms, BBC Cardiff Singer of the World and BAFTA Cymru.

With its spacious foyers and lounge bars, including the highly popular Gin Bar, excellent transport links and plenty of parking close by, is ideally placed to bring culture to the heart of the capital and without doubt a 'not to be missed' stop on any visit to Cardiff.

About the job

The Marketing Team at St David's Hall, The National Concert Hall of Wales, requires an experienced marketing professional to assist in maximising audience development and income.

The successful applicant must have a keen interest in music & the Arts and have proven arts marketing experience, and experience of managing a team in a marketing related area of a similar venue or environment. In addition applicants must be conversant with a computerised box office, have knowledge of all areas of marketing and campaign management, first class communication skills, an understanding of Audience Development, experience of programming, pricing strategy, media buying and possess developed IT skills including web management, design skills and a knowledge of social media marketing.

Flexible and part remote working available.

What We Are Looking For From You

We are looking for an Arts Marketing specialist with proven Arts Marketing Experience in a similar venue or environment and be able to demonstrate:-

  • Suitable experience in dealing with promoters, the press, public relations and managing fully integrated marketing campaigns.
  • Experience of managing a number of projects simultaneously and meeting deadlines.
  • Have experience of producing brochures, direct mail copy and press release writing.
  • Ability to demonstrate a working knowledge of database marketing and conversant with a computerised box office system in order to make effective use for marketing purposes.
  • An understanding of managing marketing budgets and of programming and ticket pricing.
  • Ability to negotiate media buying contracts, and develop excellent relationships across all media suppliers.
  • IT literate with Knowledge of digital and social media marketing. Experience of website management and e-marketing.
  • Design skills including Photoshop & Quark
  • Enthusiasm & passion for the Arts.
  • Real team player, creative & able to fully mange projects from start to finish.
  • Creative & imaginative thinker able to generate solutions and new opportunities.

Additional information

This vacancy is suitable for post share.

This post is temporary until 28th December 2023.

Internal candidates who wish to apply for this position on a secondment basis must obtain approval prior to application using Form SEC1 (4.C.081). Requests may only be approved by the relevant Director/ Assistant Director/ Chief Officer or senior nominated officer graded no lower than OM2 or in the case of schools based staff the Headteacher / Governing Body.

Flexible and remote working can be discussed at interview stage.

Due to the current COVID-19 circumstances the interview process for this role will be held on a virtual basis using an appropriate online platform. If you have any concerns around your ability to participate in a virtual interview process or if you would like an informal conversation about this role prior to application, please contact Lisa Every,

We welcome applications in both English and Welsh. Applications received in Welsh will not be treated less favourably than English applications.

Wedi'i lleoli yng nghanol Caerdydd, Neuadd Dewi Sant yw Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru.

Yn enwog am ei acwstig o'r radd flaenaf fel un o'r deg neuadd gyngerdd orau yn y byd, mae ganddi raglen gyfoethog o ddigwyddiadau byw gan gynnwys pop, roc, gwerin, jazz, comedi, cyngherddau amser cinio, sioeau cerdd, adloniant ysgafn, dawns a cherddoriaeth fyd-eang, yn ogystal â chroesawu llawer o gerddorfeydd ac unawdwyr enwocaf y byd.

Mae Neuadd Dewi Sant hefyd yn cynnal digwyddiadau o fri fel y Proms Cymreig, Canwr y Byd Caerdydd y BBC a BAFTA Cymru.

Gyda'i gynteddau helaeth a'i fariau lolfa, gan gynnwys y Bar Gin hynod boblogaidd, cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol a digon o le parcio gerllaw, mewn sefyllfa ddelfrydol i ddod â diwylliant i galon y brifddinas a heb amheuaeth mae'n stop 'na ddylid ei golli' ar unrhyw ymweliad â Chaerdydd.

Am Y Swydd

Mae angen gweithiwr marchnata proffesiynol profiadol ar Dîm Marchnata Neuadd Dewi Sant, Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, i helpu â'r gwaith o sicrhau'r incwm a'r cynulleidfaoedd mwyaf posibl.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â diddordeb brwd mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau a meddu ar brofiad amlwg o farchnata'r celfyddydau, ynghyd â phrofiad o reoli tîm yn y maes marchnata mewn lleoliad neu amgylchedd tebyg. Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â swyddfa docynnau gyfrifiadurol, bod â gwybodaeth am bob maes marchnata a rheoli ymgyrchoedd, sgiliau cyfathrebu o'r radd flaenaf, dealltwriaeth o Ddatblygu Cynulleidfaoedd, profiad o raglennu, strategaeth brisio, prynu cyfryngau a meddu ar sgiliau TG datblygedig gan gynnwys rheoli'r we, sgiliau dylunio a gwybodaeth am farchnata cyfryngau cymdeithasol.

Gweithio hyblyg a rhannol o bell ar gael.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Rydym yn chwilio am arbenigwr Marchnata'r Celfyddydau gyda Phrofiad Marchnata Celfyddydau profedig mewn lleoliad neu amgylchedd tebyg ac yn gallu dangos:-

  • Profiad addas o ddelio â hyrwyddwyr, y wasg, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli ymgyrchoedd marchnata integredig.
  • Profiad o reoli nifer o brojectau ar yr un adeg ac o fodloni terfynau amser.
  • Profiad o lunio llyfrynnau, deunydd post uniongyrchol a datganiadau i'r wasg.
  • Yn dangos gwybodaeth ymarferol am farchnata cronfa ddata ac yn deall system swyddfa docynnau gyfrifiadurol i wneud defnydd effeithiol ohoni at ddibenion marchnata.
  • Dealltwriaeth o reoli cyllidebau marchnata, rhaglennu a phennu prisiau tocynnau.
  • Yn gallu trafod contractau prynu cyfryngau a meithrin cydberthnasau rhagorol gyda'r holl gyflenwyr cyfryngau.
  • Yn hyddysg o ran TG gyda Gwybodaeth am farchnata digidol a chyfryngau cymdeithasol. Profiad o reoli gwefan ac e-farchnata.
  • Sgiliau dylunio gan gynnwys Photoshop a Quark.
  • Yn frwdfrydig dros y Celfyddydau.
  • Gweithiwr tîm creadigol sy'n gallu rheoli projectau cyfan.
  • Creadigol a dychmygol ac yn gallu dyfeisio atebion a chyfleoedd newydd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Swydd dros dro yw hon tan 28 Rhagfyr 2023.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/ Cyfarwyddwr Cynorthwyol/ Prif Swyddog neu'r uwch swyddog enwebedig ar radd swydd heb fod yn is na RhG2 neu yn achos staff mewn ysgolion y Pennaeth / Corff Llywodraethu a all gymeradwyo ceisiadau.

Gellir trafod gweithio hyblyg ac o bell yn ystod y cyfweliad.

O ganlyniad i'r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Lisa Every,

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Inform a friend!

Top